News

Update: Whole Farm Regenerative Grazing Workshop with Caroline Grindrod

When an event is sold out within 12 hours you know you’re in for a great day! And that’s exactly what was had at our Whole Farm Regenerative Grazing Workshop with the excellent Caroline Grindrod. NFFN Cymru Manager, Rhys Evans, and Tir Canol's Naomi Heath reflect on the workshop. Scroll down for Welsh language version.

This event, a collaboration between NFFN Cymru, Tir Canol, FWAG Cymru and Coed Cadw, explored why regenerative grazing is most successful when applied using a ‘whole farm system’ approach.

Caroline - who’s been involved in developing sustainable food and farming businesses for over 20 years - presented a distillation of her knowledge about grazing livestock and ecosystem management, and how it can increase farm resilience and productivity. From an upland perspective, Caroline explained why the soil, plant, animal, and farm ecosystems are interlinked and must work together to successfully reduce inputs and increase pasture productivity.

Whilst it was a short course, it helped build on participants knowledge. One person summed this up well “I feel like this event has allowed me to be more confident in what I am doing and that I can do more of it".

The workshop also had a practical element and included a visit to a local farm, Lle’r Neuaddau, to observe soil and root conditions.  A big thank you to Rheinallt Jones for showing hosting.


The overall workshop was a joyful learning experience for many, one participant joking, “You know I am digging a hole up a hill in the rain, and here I am having the best time learning!”.

I came away from the workshop feeling so positive about farming. As farmers we can help deliver so much benefit to society – producing healthy and nutritious food, storing carbon, improving biodiversity, reducing flood risk and bringing vitality to rural communities.  Encouraging greater species diversity in our pastures and implementing a graze and rest system via grazing management are some of the most effective ways to deliver these benefits.  The insight Caroline offered on what is happening in the soil underneath our feet was fascinating.

Rhys Evans, NFFN Cymru Manager

The NFFN regularly hosts events across the UK on a range of topics concerning how farmers can work with nature or in more sustainable ways. You can view what is coming up on the NFFN’s Eventbrite page.

Pori Adfywiol a Rheolaeth Ecosystemau Amaethyddol gyda Caroline Grindrod

Pan mae digwyddiad yn gwerthu allan o fewn 12 awr yna mae’n argoeli i fod yn ddiwrnod gwych! A dyna’n union a gafwyd yn ein Gweithdy Pori Adfywiol a Rheolaeth Ecosystemau Amaethyddol gyda’r ardderchog Caroline Grindrod.  Ffocws y digwyddiad, a drefnwyd ar y cyd-cyd rhwng NFFN Cymru, Tir Canol, FWAG Cymru a Choed Cadw, oedd archwilio pam mae pori adfywiol yn fwyaf llwyddiannus pan gaiff ei gymhwyso gan ddefnyddio dull ‘system fferm gyfan’.

Cyflwynodd Caroline, sydd wedi bod yn ymwneud â datblygu busnesau bwyd a ffermio cynaliadwy ers dros 20 mlynedd, grynhoad o wybodaeth am sut y gall da byw a rheoli ecosystemau gynyddu gwytnwch a chynhyrchiant ffermydd. O safbwynt yr ucheldir, esboniodd Caroline pam mae ecosystemau pridd, planhigion, anifeiliaid a fferm yn rhyng-gysylltiedig a bod yn rhaid iddynt weithio gyda’i gilydd i leihau mewnbynnau’n llwyddiannus a chynyddu cynhyrchiant porfa.

Er mai cwrs byr ydoedd, bu'n gymorth i adeiladu ar wybodaeth y sawl a fynychodd. Crynhodd un person hyn yn dda “Rwy'n teimlo bod y digwyddiad hwn wedi fy ngalluogi i fod yn fwy hyderus yn yr hyn yr wyf yn ei wneud ac y gallaf ei wneud MWY ohono”.

Roedd elfen ymarferol i’r gweithdy hefyd ac yn cynnwys ymweliad â fferm leol, Lle’r Neuaddau, i arsylwi cyflwr y pridd a’r gwreiddiau.  Diolch yn fawr iawn i Rheinallt Jones am ein croesawu.

 Roedd y gweithdy cyffredinol yn brofiad dysgu arbennig i lawer, a dywedodd un cyfranogwr, “’Dwi yng nghanol nunlle yn cloddio twll yn y gwynt a’r glaw, ond yn cael yr amser gorau yn dysgu!”.

Nesi adael y gweithdy yn teimlo mor gadarnhaol am amaethyddiaeth. Fel ffermwyr gallwn helpu i sicrhau cymaint o fuddiannau i gymdeithas – cynhyrchu bwyd iach a maethlon, storio carbon, gwella bioamrywiaeth, lleihau perygl llifogydd a dod â bywiogrwydd i gymunedau gwledig.  Mae annog amrywiaeth o rywogaethau yn ein porfeydd a gweithredu system bori a gorffwys trwy reoli pori yn rhai o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o gyflawni’r buddion hyn.  Roedd yr hyn ddysgodd Caroline i ni ynglŷn â beth sy’n digwydd yn y pridd o dan ein traed yn hynod ddiddorol.

Rhys Evans, Rheolwr NFFN Cymru

Mae’r NFFN yn cynnal digwyddiadau ar draws y DU yn rheolaidd ar amrywiaeth o bynciau sy’n ymwneud â sut y gall ffermwyr weithio gyda natur neu mewn ffyrdd mwy cynaliadwy. Gallwch weld beth sydd ar y gweill ar dudalen Eventbrite yr NFFN.