News

Cynefin: Farming, nature and connection in action / Amaeth, natur a chydweithio

Wales
Events

Earlier this month, around 200 farmers, conservationists, researchers, and nature enthusiasts gathered at Llangors for the Nature Friendly Farming Network’s (NFFN) inaugural Cynefin event. And what a weekend it was! 

Organised in partnership with the Montgomeryshire Wildlife Trust, the weekend was defined by a warm, optimistic atmosphere, rich conversations, and meaningful relationship building. Over two days, attendees explored what that deep connection to place and land truly looks like in action across Wales. 

As farmer Sorcha Lewis neatly captured during one of the weekend's panels, "Cynefin is a small word for a very big thing." 

Saturday: Grazing, hedgerows, curlews and high energy

The weekend kicked off by challenging the narrative that livestock farming and environmental health are inherently at odds. Farmer Emma Douglas opened with an insight into how livestock grazing can actively create and manage some of our most vital habitats. Dairy farmer Huw Foulkes followed with a look at regenerative grazing, demonstrating how thoughtful herd management can drive both business performance and ecological resilience. While agriculture doesn't always get it right, the session showed that when grazing is managed well, the benefits spill over in every direction.

Next came a masterclass in hedgerows led by Megan Gimber, who reminded us that "hedgerows are the Swiss army knife of habitats." She walked through their rich history, management techniques, and ecological value. Farmers Claire Whittle and Rhodri Lloyd-Williams brought the practical perspective, detailing how healthy hedges boost soil health, mitigate flooding, and provide critical shade and shelter for stock.

After lunch, author and campaigner Mary Colwell chaired a session on curlew conservation. RSPB Cymru Farm Advisor and farmer Rhian Pierce outlined the curlew’s ecological needs, while farmers Sorcha Lewis and Richard Roderick shared their on-the-ground work protecting these iconically vocal birds on their farms. The discussion underscored the inherent complexities of farmland species management, but left the room filled with tangible hope for the future.

Hands-on afternoon demonstrations

Thankfully, the forecasted heavy rain held off for the afternoon’s outdoor sessions, allowing everyone to get out into the fields:

  • Hedgerow safari: Exploring habitat structures up close with Megan Gimber.

  • Dung beetle safari: Uncovering soil ecosystem heroes with Claire Whittle.

  • Moth trapping: Discovering local insect diversity with Dr. Norman Lowe.

  • Soil health monitoring: Testing practical soil assessment techniques with Huw Foulkes.

To wrap up the formal day, writer Carwyn Graves sat down in conversation with farmer and presenter Alun Elidyr. Alun delivered a colourful, emotional, and refreshingly honest account of his life, his history on the farm, and his relationship with the land - providing the perfect finale to the day's talks.

As night fell, attendees relaxed with good food, local beer, and live Welsh music from Gwilym Bowen Rhys and Lo-fi Jones. The celebratory spirit ran late into the night, with the last revelers finally heading to bed at 3:30am to cap off a fantastic Saturday.

Sunday: Landscape collaboration and looking ahead

Sunday morning turned the spotlight onto landscape-scale collaboration. Keri Davies (Beacons Water Group), Rhys Evans (Ffermwyr yr Wnion), and Ric Cooper (Cleddau Project) reflected on their experiences uniting farmers across catchments to achieve shared environmental and business resilience goals.

Even when the rain eventually made an appearance, spirits stayed high during a guided farm walk around Gilfach Farm. Led by Colin Preece and Roisin Campbell-Palmer, the walk gave attendees a firsthand look at how beavers are being integrated into a working farmed landscape to restore natural water systems.

The final panel looked squarely at the future of nature-friendly farming in Wales. Farmers Dan Jones and John Yeomans, alongside RSPB Cymru’s Arfon Williams and AHDB’s Rachael Madeley-Davies, led a broad cross-sector discussion. Together, they explored how food production and nature can thrive side-by-side, navigating shifting policy landscapes, building economic resilience, and safeguarding natural heritage.

As Rachael Madeley-Davies succinctly put it: "Farmers are kidding themselves if they think they can farm without nature."

Looking ahead

A big thank you to our partners at the Montgomeryshire Wildlife Trust, all of our staff, volunteers, speakers, demonstrators, and every attendee who helped make our very first Cynefin event such a success.

Who knows - we just might see you again next year!

---------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Cynefin: Amaeth, Natur a Chydweithio 

Yn gynharach y mis hwn, daeth tua 200 o ffermwyr, cadwraethwyr, ymchwilwyr a sawl un sy’n frwd dros natur ynghyd yn Llangors ar gyfer digwyddiad cyntaf 'Cynefin' y Rhwydwaith Ffermio er Lles Natur (NFFN).  Roedd hi’n benwythnos gwerth chweil, a rydym yn ddiolchgar tu hwnt i’n partneriaid yn Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn. 

Dros ddau ddiwrnod, cawsom gyfle i archwilio’r cysylltiad dwfn hwnnw rhwng tir, pobl a natur yng Nghymru. Roedd yr awyrgylch yn un cynnes, y sgyrsiau’n llifo ac roedd bwrlwm i’w deimlo tryw gydol y digwyddiad.

Fel y mynegodd y ffermwraig Sorcha Lewis yn ystod un o sesiynau trafod y penwythnos: "Mae 'Cynefin' yn air bach am rywbeth mawr iawn." 

Dydd Sadwrn: Pori. gwrychoedd, y gylfinir a bwrlwm! 

Dechreuodd y penwythnos drwy herio'r syniad nad oes modd i ffermio da byw a natur gyd-fynd â'i gilydd. Ein siaradwr cyntaf oedd y ffermwraig Emma Douglas, a cawsom ganddi drosolwg ar sut y gall pori gan dda byw greu a rheoli rhai o'n cynefinoedd mwyaf arbennig. Dilynwyd hyn gan y ffermwr llaeth Huw Foulkes, a edrychodd ar bori adfywiol, gan ddangos sut y gall rheoli pori meddylgar hybu perfformiad busnes a gwydnwch ecolegol.  Er nad yw amaethyddiaeth yn berffaith o bell frodd, ac mae wastad lle i wella,  dangosodd y sesiwn pan gaiff pori ei reoli'n dda, fod y manteision yn niferus.

Yna cafwyd sesiwn arbenigol ar wrychoedd (neu berth/ llwyn/ sietyn yn ddibynnol ar le ‘da chi’n byw!) dan arweiniad Megan Gimber, a atgoffodd ni mai "hedgerows are the Swiss army knife of habitats." Aeth drwy eu hanes cyfoethog, y dulliau o'u rheoli a'u gwerth ecolegol. Cyflwynodd y ffermwyr Claire Whittle a Rhodri Lloyd-Williams y persbectif ymarferol, gan egluro sut mae gwrychoedd iach yn gwella iechyd y pridd, yn helpu i atal llifogydd ac yn darparu cysgod a lloches hanfodol i dda byw.

Ar ôl cinio, cadeiriodd yr awdur a’r ymgyrchydd Mary Colwell sesiwn ar gadwraeth y gylfinir. Amlinellodd Rhian Pierce - ffermwr ac ymgynghorydd fferm RSPB Cymru - anghenion ecolegol y gylfinir, tra rhannodd y ffermwyr Sorcha Lewis a Richard Roderick eu gwaith ar lawr gwlad i ddiogelu’r adar hyn ar eu ffermydd. Amlygodd y drafodaeth y cymhlethdodau sy’n gysylltiedig â rheoli rhywogaethau ar ffermdir, ond gadawodd yr ystafell yn llawn gobaith ar gyfer y dyfodol.

Arddangosiadau ymarferol yn y prynhawn 

Yn ffodus, ni chafwyd y glaw trwm a ragwelwyd yn ystod sesiynau awyr agored y prynhawn, gan alluogi pawb i fynd allan i'r caeau i ymestyn eu coesau:

  • Bywyd y Berth: Mwy na therfyn gyda Megan Gimber

  • Cloddio a Chanfod: Monitro iechyd pridd hefo Huw Foulkes

  • Arwyr y Pridd: Chwilen y dom gyda Claire Whittle

  • Cyfrinachau'r Nos: Gwylio'r gwyfynod hefo Norman Lowe

I gloi'r sesiynau trafod,, cafwyd sgwrs rhwng yr awdur Carwyn Graves a'r ffermwr a'r cyflwynydd Alun Elidyr. Rhannodd Alun hanes bywiog, emosiynol ac onest am ei fywyd, ei gefndir ar y fferm a'i berthynas â'r tir, gan ddarparu diweddglo perffaith i sgyrsiau'r dydd.

Wrth iddi nosi, cafwyd cyfle i ymlacio gyda bwyd da, cwrw lleol a cherddoriaeth Gymraeg fyw gan Gwilym Bowen Rhys a Lo-fi Jones. Parhaodd yr awyrgylch dathlu hyd yn hwyr i'r nos, gyda'r dathlwyr olaf yn mynd i'r gwely am 3:30 y bore i gloi diwrnod gwych.

Dydd Sul: Cydweithio ar raddfa tirwedd ac edrych i'r dyfodol 

Cydweithio oedd thema bore dydd Sul, lle rhannodd Keri Davies (Grŵp Dŵr y Bannau), Rhys Evans (Ffermwyr yr Wnion) a Ric Cooper (Prosect y Cleddau) eu profiadau o gydweithio â ffermwyr a chydmogion ar draws dalgylchoedd. Ac er gwaetha’r glaw trwm ganol bore parhaodd pawb mewn hwyliau da yn ystod taith gerdded dywysedig o amgylch Fferm Gilfach. Dan arweiniad Colin Preece a Roisin Campbell-Palmer, cawsom gyfle i weld yn uniongyrchol sut mae afancod yn cael eu hintegreiddio i dirwedd ffermio weithredol er mwyn adfer systemau dŵr naturiol.

Canolbwyntiodd y sesiwn drafod olaf ar ddyfodol amaethyddiaeth a natur yng Nghymru. Arweiniodd y ffermwyr Dan Jones a John Yeomans, ynghyd ag Arfon Williams o RSPB Cymru a Rachael Madeley-Davies o AHDB, drafodaeth eang draws-sector.  Gyda'i gilydd, archwiliasant sut y gall cynhyrchu bwyd a natur ffynnu ochr yn ochr, gan lywio tirweddau polisi sy'n newid, meithrin gwydnwch economaidd, a diogelu treftadaeth naturiol. 

Peidiwch ag anghofio geiriau doeth Rachael Madeley-Davies: "Mae ffermwyr yn twyllo eu hunain os ydyn nhw'n meddwl y gallant ffermio heb natur."

Y Dyfodol 

Diolch yn fawr unwaith eto i’n partneriaid Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn, ein holl staff, gwirfoddolwyr, siaradwyr, arddangoswyr a phob un a fynychodd ac a helpodd i wneud ein digwyddiad Cynefin cyntaf yn llwyddiant ysgubol. 

Pwy a ŵyr - efallai y gwelwn ni chi eto flwyddyn nesaf!


Cookie consent

We use cookies on this website to improve your experience, provide social media features, and analyse our traffic. By clicking Accept All, you agree to the use of cookies as outlined in our Cookie & Privacy Policy. You can manage your cookie preferences at any time by clicking Cookie Settings.