About this event
Led by Caroline Grindrod, this one-day workshop will explore why regenerative grazing is most successful when applied using a ‘whole farm system’ approach. From an upland perspective, we explain why the soil, plant, animal, and farm ecosystems are interlinked and must work together to successfully reduce inputs and increase pasture productivity.
You’ll come away from this workshop with knowledge of:
Upland ecosystem management
The principles of soil health
Principles of regenerative grazing
How to manage grassland and grazing to become more resilient
Why regenerative farming requires an understanding of systems thinking
How to improve farm business resilience and profitability
Adapt to the challenges of climate change
This event is a collaboration between NFFN Cymru and Tir Canol, with support from FWAG Cymru, RSPB Cymru and Coed Cadw. Find out more about our work together, here.
In Welsh: Pori Adfywiol a Rheolaeth Ecosystemau Amaethyddol gyda Caroline Grindrod
Gweithdy ymarferol yn canolbwyntio ar gynyddu gwytnwch a chynhyrchiant amaethyddol trwy reoli pori ac ecosystemau yn yr ucheldir. Mae’r digwyddiad hwn un ar y cyd rhwng NFFN Cymru a Tir Canol, gyda chefnogaeth gan FWAG Cymru, RSPB Cymru a Coed Cadw. Am fwy o wybodaeth ynglŷn â sut rydym yn gweithio gyda’n gilydd gwelwch Home | Tir Canol.
Dyddiad ac amser: Dydd Iau 23ain Mai 2024, 9:30am - 3:00pm
Lleoliad: The George Borrow Hotel, Ponterwyd, Aberystwyth SY23 3AD
Ynglŷn â'r digwyddiad hwn
Dan arweiniad Caroline Grindrod, bydd y gweithdy undydd hwn yn edrych ar sut mae pori adfywiol yn fwyaf llwyddiannus pan gaiff ei gymhwyso gan ddefnyddio dull ‘system fferm gyfan’. O safbwynt yr ucheldir, rydym yn esbonio pam mae ecosystemau pridd, planhigion, anifeiliaid a ffermydd yn gysylltiedig â’i gilydd a pham fod rhaid iddynt gydweithio er mwyn gallu leihau mewnbynnau’n llwyddiannus a chynyddu cynhyrchiant porfa.
Byddwch yn gadael y gweithdy hwn gyda gwybodaeth am y canlynol:
Rheolaeth ecosystemau yr ucheldir
Egwyddorion iechyd pridd
Egwyddorion pori adfywiol
Sut i reoli glaswelltir a phori i ddod yn fwy gwydn
Pam fod ffermio adfywiol yn gofyn am ddealltwriaeth o system y fferm gyfan
Sut i wella gwydnwch a phroffidioldeb busnes fferm
Addasu i heriau newid hinsawdd
Amserlen
9:30am - Byddwn yn cwrdd yng Ngwesty George Borrow, Ponterwyd, lle bydd te a choffi’n cael eu darparu. Bydd Caroline yn rhoi cyflwyniad, ac yna dilynir hynny gan sesiwn holi ac ateb. Gyda'n gilydd byddwn yn archwilio'r rôl mae bioleg pridd yn ei chwarae mewn perfformiad amaethyddol, iechyd porfa a hyfywedd fferm a pha arferion y gellir eu defnyddio i gefnogi priddoedd iach.
1pm - Cinio (mae hyn wedi'i gynnwys).
1.45pm – Byddwn yn ymweld â Lle'r Neuaddau, fferm ucheldir bîff a defaid 1200 erw ar Bumlumon sydd 10 munud mewn car o'r gwesty. Bydd Caroline yn rhoi arweiniad ymarferol ar brosesau ecosystem naturiol a sut y gall ffermwyr weithio gyda’r prosesau hyn i wella effeithlonrwydd systemau fferm.
3pm - Sylwadau cloi a diwedd y sesiwn
Cyfarpar
Dewch â’r canlynol gyda chi:
Esgidiau a dillad tywydd gwlyb priodol
Llyfr nodiadau a beiro/gliniadur
Camera
Ynglŷn â’r hyfforddwr
Mae Caroline Grindrod yn ymgynghorydd, hyfforddwr a chyfathrebwr dilys sy'n cefnogi busnesau bwyd a ffermio i drosglwyddo'n ddidrafferth i systemau amaethyddol adfywiol. Yn weithiwr proffesiynol achrededig gyda’r Savory Institute, mae Caroline yn defnyddio’r fframwaith rheoli cyfannol i danategu ei phrosiectau. Mae gan Caroline Grindrod gefndir mewn cadwraeth amgylcheddol a ffermio mynydd yn ucheldiroedd gogleddol y DU ac mae wedi bod yn ymwneud â datblygu busnesau bwyd a ffermio cynaliadwy ers dros 20 mlynedd.