ARE YOU A FARMER?
Join Today
NATURE LOVER?
Join Today

Be part of the solution. Join today...

Cymru: Plannu Coed a Newid Hinsawdd...Rhaid Troedio’n Ofalus

Gan: Rhys Evans, Prif Swyddog Ffermio Cynaliadwy Rhwydwaith Ffermio Er Lles Natur Cymru

Ar 12fed o Orffennaf 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynlluniau i greu coetir yng Nghymru. Mae Datganiad y Cabinet gan Lee Waters AS, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, yn amlinellu’r angen i blannu 43,000ha o goetir newydd erbyn 2030 a 180,000ha erbyn 2050.

Er mwyn hwyluso plannu coed, mae Llywodraeth Cymru wedi lansio’r Cynllun Grant Buddsoddi mewn Coetir (TWIG). Bydd y cynllun hwn yn darparu grantiau i wella ac ehangu coetiroedd presennol a chreu coetiroedd newydd yng Nghymru yn unol â Safon Coedwigaeth y DU.

Yn ôl yr adroddiad: “Mae plannu mwy o goed yn hanfodol i osgoi newid trychinebus yn yr hinsawdd a gall esgor hefyd ar amrywiaeth eang o fanteision i Gymru, gan gynnwys creu swyddi ‘gwyrdd’, helpu i daclo’r argyfwng natur, gwella lles a lleihau problemau llifogydd ac ansawdd aer. Bydd llawer o’r coed a blennir yn dod yn rhan o’r Goedwig Genedlaethol newydd i Gymru.”

Pwyntiau allweddol:

  • Plannu 43,000 hectar o goetir newydd erbyn 2030, a 180,000 hectar erbyn 2050.
  • Cymunedau, ffermwyr a pherchenogion tir ym mhob rhan o Gymru fydd yn plannu’r rhan fwyaf o’r coetir newydd, nid Llywodraeth Cymru.
  • Bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio osgoi plannu ar dir sydd fwyaf cynhyrchiol i ffermwyr.
  • Ar ffermydd, mae angen nid yn unig i blannu coetiroedd newydd ond hefyd plannu perthi ac ymylon, megis coed ar hyd ffiniau caeau, coed gwasgaredig a lleiniau cysgodi.
  • Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo £17m i blannu coed dros y ddwy flynedd nesaf drwy gynllun Creu Coetir Glastir. Bydd cyfnod ymgeisio newydd yn dechrau cyn gynted â phosibl er mwyn i fwy fedru ceisio am yr arian hwn a sicrhau bod y gyllideb lawn yn cael ei gwario.
  • Bydd angen sicrhau bod unrhyw newidiadau i’r cymorth ar gyfer creu coetiroedd yn gyson â’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy arfaethedig.
  • Mae’n bwysig bod coed a choetiroedd yn cael eu rheoli’n dda ar ôl eu plannu a bod ein coetiroedd a’n coed hynafol yn cael eu diogelu a’u gwarchod.
  • Bydd bod yn sero net, yn enwedig yn y sector adeiladu, yn golygu defnyddio llawer mwy o bren yng Nghymru. Mae yna wir gyfle i broseswyr a gweithgynhyrchwyr pren yng Nghymru gyfrannu at ‘economi bren’ yng Nghymru.
  • Bydd Llywodraeth Cymru yn sefydlu gweithgor i ystyried modelau i ddenu buddsoddiad i greu coetiroedd heb amharu ar gymunedau a phatrymau perchenogaeth tir.

Does dim dwywaith bod coed yn chwarae rhan hanfodol wrth fynd i’r afael â’r argyfwng natur a hinsawdd – mae coetiroedd yn ein gallu i wrthsefyll yn well y newid yn yr hinsawdd a gallent greu tirwedd llawn natur sy’n fuddiol i dir fferm a bywyd gwyllt. Ond, o edrych yn fanylach ar gynnig y Llywodraeth, mae ei nod yn golygu y bydd angen plannu o leiaf 5,000ha y flwyddyn. Llynedd, dim ond 290 o hectarau gafodd eu plannu yng Nghymru ac nid oes mwy na 2,000 o hectarau wedi’u plannu mewn unrhyw flwyddyn ers 1975. O’i chymharu â hynny, mae’r nod hon yn dra uchelgeisiol a gallai ei chyflwyno ar raddfa mor fawr arwain at ganlyniadau anfwriadol os na weithredir yn ofalus.

 

Beth yw’r goblygiadau?

Gyda dros 80% o dir y wlad yn cael ei reoli gan ffermwyr, gall y sector ddisgwyl chwarae rhan ganolog wrth gyflenwi’r gwaith o blannu coed ac nid yw’n syndod bod rhai am droedio’n ofalus. Yr hyn nad yw llawer o ffermwyr yn amau yw bod angen mwy o goed yn ein tirwedd er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng natur a’r hinsawdd – ond dim ond rhan o’r ateb yw plannu coed.

Dylid rhoi ystyriaeth gyfartal i gynefinoedd amaethyddol eraill sy’n llawn carbon fel gwrychoedd, rhostiroedd, mawndiroedd, glaswelltiroedd llawn rhywogaethau, dolydd gwair a gwyndonnydd amlrywogaeth. Fel y mae ar hyn o bryd, mae mawndiroedd diraddiedig y DU yn allyrru mwy o garbon nag y gallai hyd yn oed targedau plannu coed mwyaf uchelgeisiol Pwyllgor Newid Hinsawdd y DU eu dal a’u storio. Oni ddylai Llywodraeth Cymru fod yr un mor daer a chynnig yr un flaenoriaeth i adfer ein mawndiroedd? Oni fyddai gosod targedau ar gyfer adfer dolydd gwair a glaswelltiroedd llawn rhywogaethau yng Nghymru yn ategiad gwell i greu coetir? Ar hyn o bryd, nid yw’r naill weithred na’r llall yn cael eu hannog gan dargedau ledled y wlad.

O ran plannu coed, mae’n rhaid i ni blannu’r goeden iawn yn y man iawn ac osgoi bwrw ati ag agwedd ffwrdd-â-hi a allai effeithio’n negyddol ar fioamrywiaeth werthfawr. Er enghraifft, arweiniodd polisïau a ysgogodd cynnydd mewn cynhyrchu coed yn y wlad hon yn dilyn y Rhyfeloedd Byd at ddarnau mawr o dirwedd Cymru yn cael eu dominyddu gan goedwigaeth fasnachol, a gafodd effaith anfwriadol ar fywyd gwyllt. Mae’r planhigfeydd masnachol hyn, sydd fel arfer yn cael eu dominyddu gan y befrwydden Sitka anfrodorol, yn amlach na pheidio o werth bioamrywiaeth cyfyngedig. Ac i wneud pethau’n waeth, plannwyd miloedd o hectarau fel coedwigoedd un rhywogaeth ar gynefinoedd bywyd gwyllt yn yr ucheldir. Yn sicr, cyfrannodd hyn at golli 44% o’n gweundiroedd yr ucheldir rhwng y 1940au a diwedd yr 1980au.

Gall coetiroedd sydd wedi’u plannu mewn mannau amhriodol hefyd effeithio ar rai o’n hadar mwyaf eiconig. Mae’r gylfinir, rhywogaeth sydd dan fygythiad difrifol yng Nghymru, yn tueddu i beidio â nythu o fewn 200m i goedwigaeth gan fod yn well ganddyn nhw dirweddau agored, tra bod y cynnydd ym mhoblogaethau ysglyfaethwyr (yn enwedig llwynogod a brain) sy’n gysylltiedig â choedwigaeth yn effeithio ar y nifer o gywion sy’n goroesi. Weithiau, mae’r gwrthwyneb i blannu coed yn fwy priodol ar gyfer cyfrannu at y darlun ehangach o liniaru newid hinsawdd ac adfer natur, lle dylem fod yn torri coed i lawr ar fawndiroedd neu leiniau cysgodi (shelter belts) ger ardaloedd sy’n cael eu defnyddio gan adar sy’n nythu ar y ddaear.

Sut gall ffermio a chreu coetir gydfodoli?

Ar fy fferm deuluol yn Rhyd-y-main ger Dolgellau mae gennym yn agos at 750 erw o dir uchel a mynyddig. Mae gennym goetir sydd wedi’i bori’n ysgafn sy’n caniatáu i arlleg gwyllt a chlychau’r gog ffynnu a, thrwy eu rheoli fel hyn, y mae adar fel y gwybedog brith a’r tingoch yn gallu nythu yma.

Rydyn ni wedi ffensio tir serth anghynhyrchiol i helpu i leihau llifogydd, gwella’r pridd, storio carbon ac i fod o fudd i fywyd gwyllt. Rydym wedi mabwysiadu system coedamaeth ar rai o’n caeau, lle mae coed parcdir a da byw sy’n pori yn bodoli ochr yn ochr.

System coedamaeth: plannu coed mewn tiroedd pori da byw i hybu gwerth naturiol a masnachol trwy gynnig cysgod a lloches i dda byw mewn tywydd garw a darparu maetholion iddynt.

Mae coed ar wasgar ar draws y ffridd yn creu cynefin gwerthfawr i fywyd gwyllt ac rydym yn sicrhau bod gennym dirweddau agored ar ein rhostir a’n dolydd gwair, fel y gallant storio carbon a chynnig lleoliadau allweddol i fioamrywiaeth ffynnu.

Er ein bod yn croesawu cynlluniau sy’n cefnogi ac yn gwobrwyo ffermwyr am blannu coed, gwrychoedd, lleiniau cysgodi a hwyluso aildyfiant coetir yn naturiol – mae angen dulliau holistig arnom o fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd. Mae angen i ni sicrhau bod ein hymdrechion i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd hefyd o fudd i fywyd gwyllt, ffermwyr a’n cymunedau gwledig.

Hoffwn glywed eich barn ynghylch targedau plannu coed diweddar Llywodraeth Cymru. Ydych chi wedi’ch cyffroi? Yn bryderus? Yn wyliadwrus? Gadewch imi wybod beth yw eich barn chi …rhys.evans@nffn.org.uk

Lluniau: Rhys Evans