Mae ffermwyr sy’n ffermio er lles natur yn brysur trwy gydol yr argyfwng hwn, yn helpu i gadw cynnyrch ar ein silffoedd ac i warchod ein cefn gwlad. Edrychwch ar ein hadroddiad newydd i ddarganfod mwy am sut mae ein ffermwyr yn cefnogi cymunedau lleol yn ystod y pandemig a’r hyn y gallwch chi ei wneud i helpu. Lawrlwythwch yr adroddiad llawn yma.
Rydyn ni’n grŵp o ffermwyr sydd wedi dod at ein gilydd i hyrwyddo ffordd o ffermio sy’n gynaliadwy ac yn dda i natur. Mae pob un ohonom yn dod o wahanol gefndiroedd – mawr a bach, organig a chonfensiynol. Mae gennym ddiddordeb brwd mewn sicrhau bod ein cefn gwlad yn gynhyrchiol ac yn llawn bywyd gwyllt. Rydyn ni’n gobeithio y gwnewch ymuno â ni i helpu i dynnu sylw at y ffaith y gall ffermio a natur fynd law yn llaw. Mae’r rhwydwaith yn agored i ffermwyr a’r cyhoedd. Byddwn yn ei ddefnyddio i godi ymwybyddiaeth o ffermio er lles natur, i rannu syniadau a phrofiadau ac i weithio gyda’n gilydd er mwyn sicrhau polisïau gwell o ran bwyd a ffermio. Mae hwn yn gyfnod hollbwysig i bolisi amaethyddiaeth yn y DU. Gallai’r penderfyniadau a wneir ar ôl Brexit wneud yn siŵr bod ffermio ym Mhrydain yn sicrhau dyfodol cynaliadwy ac yn gwneud llawer mwy i helpu natur i oroesi a ffynnu. Mae’r Rhwydwaith Ffermio er Lles Natur eisiau helpu ei aelodau i gael llais cryf yn y dadleuon polisi pwysig hyn. Rydyn ni hefyd eisiau ysbrydoli’r cyhoedd gyda dyfodol lle mae ffermwyr a natur yn gweithio law yn llaw. Rydyn ni’n credu drwy weithio gyda’n gilydd y gallwn ddysgu mwy, ysbrydoli mwy o bobl a chael mwy o ddylanwad. Rydyn ni’n gobeithio y byddwch eisiau ymuno â ni a chofrestru ar gyfer ein maniffesto.
Mae’r tirlun yn y DU yn cael ei greu gan ffermio. Ond nid yw’r holl newidiadau diweddar wedi bod yn ddymunol. Mae llai o briddoedd ar gael, mae cyrsiau dŵr wedi dirywio ac mae natur wedi’i chael hi’n anodd ymdopi â cyflymder y newidiadau yma. Mae dros 600 o rywogaethau tir fferm wedi dirywio dros y 50 mlynedd diwethaf. Fodd bynnag, mae llawer o ffermydd yn mynd yn groes i’r duedd hon; mae priddoedd yn cael eu hadfer ac mae natur yn ffynnu ac os bydd mwy yn dilyn yr esiampl yma, gallwn atal y dirywiad hwn. Gan fod dros 70% o’r DU yn ffermdir, mae angen i ni weithredu nawr i ddarparu ar gyfer bywyd gwyllt ar lefel y tirlun ehangach.
Mae’r maniffesto hwn yn ceisio uno’r holl ffermwyr sy’n frwd dros fywyd gwyllt a ffermio cynaliadwy drwy feddwl am ffordd o weithredu ar y cyd yn y dyfodol: creu rhwydwaith ffermio er lles natur.
Mae’r Rhwydwaith Ffermio er Lles Natur yn darparu llwyfan i aelodau o’r gymuned ffermio rannu eu gwybodaeth, bod yn bresennol mewn hyfforddiant a digwyddiadau a lledaenu manteision ffermio cynaliadwy er lles natur ar lefel genedlaethol. Gall y gymuned o ffermwyr tebyg ddylanwadu ar bolisi, manteisio ar hyrwyddo drwy’r cyfryngau cymdeithasol a chael mwy o gefnogaeth ar gyfer technegau ffermio cynaliadwy. Mae ymuno â’r NFFN am ddim.
Hoffem wahodd unrhyw un sydd â diddordeb mewn ffermio cynaliadwy neu ddiogelu’r amgylchedd i ymuno â ni a helpu i sicrhau amgylchedd cynaliadwy ar ein cyfer ni’n hunain, ein ffrindiau, ein teuluoedd a chenedlaethau'r dyfodol. Mae ymuno â’r NFFN am ddim.
Darllenwch ein blog diddorol, sy'n cynnwys diweddariadau rheolaidd ar hynt y prosiect, darnau barn, newyddion am y diwydiant a phroffiliau aelodau.
Rydyn ni’n cynnal digwyddiadau a hyfforddiant i'n haelodau ledled y DU ac mae gennym rywbeth addas i bob aelod o’r teulu, gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant a’r rheini sy'n frwd dros y maes. Defnyddiwch ein hadnodd dod o hyd i ddigwyddiadau i weld a oes digwyddiad yn eich ardal chi.