Martin is a farmer and contractor in South Cambridgeshire, growing mainly arable crops on his family farm and rented land. He has a special interest in farm conservation management, currently running an ELS and HLS agreement and has Countryside Stewardship schemes on land he rents and manages. He also supports the delivery of Stewardship schemes for a number of other farmers. Martin is the NFFN UK Steering Group Chair and hopes to see the network grow with like-minded farmers and land managers who will work together, sharing best practices and demonstrating what can be accomplished for nature and the environment while producing great produce.
Mae Sorcha yn byw yn ardal hyfryd Cwm Elan yng Nghanolbarth Cymru lle mae hi'n ffermio gyda'i gŵr a'i 2 o blant ar fferm tir uchel. Mae hi'n frwd dros hyrwyddo pa mor anhygoel yw ein hucheldiroedd, yr amrywiaeth o fywyd gwyllt sy'n dibynnu arnynt a'r bobl sy'n helpu i'w cynnal a'u cadw.
Cafodd Hazel ei geni a'i magu yn Shetland ac ynghyd â'i gŵr, Kenneth, mae hi'n rhedeg tyddyn yn Aithsetter, Cunningsburgh. Roedd Aithsetter mewn Ardal Amgylcheddol Sensitif (ESA) am 10 mlynedd ac mae bellach yn rhan o Gynllun Hinsawdd Amgylchedd Amaethyddol (AECS). Mae Hazel yn frwd dros sicrhau bod y bywyd gwyllt, y fflora a'r ffawna oedd o gwmpas iddi hi eu mwynhau yn ei phlentyndod, yn parhau i fodoli ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae'r ffaith ei bod yn arfer bod yn Llywydd Undeb Amaethwyr Cenedlaethol yr Alban (NFUS) ar gyfer Shetland, ac yn Gadeirydd Cadw Tyddynnod a Ffermio Shetland, y Grŵp Cynghori ar Fywyd Gwyllt (SC FWAG) yn ogystal â gweithio am 8 mlynedd fel cydlynydd gweithrediadau ar gyfer Grŵp Marchnata Bywyd Gwyllt Shetland yn dangos faint mae hi wedi ymrwymo i amaethyddiaeth. Mae'r cwpl hefyd yn aelodau o bwyllgor Cymdeithas Amaethyddol Cunningsburgh a'i Ranbarthau - sy'n gyfrifol am gynnal y sioe flynyddol. Roedd rhan o rostir eithin y tyddyn yn ail yng Ngwobr Golden Plover 2015 yr Ymddiriedolaeth Eithin ar gyfer Rheoli Rhostiroedd (Prosiect Adfer Peatland Shetland) - sy'n cael ei reoli'n barhaus. Fe wnaeth y cwpl arallgyfeirio rywfaint yn 2012 drwy adeiladu 2 fwthyn gwyliau ar dir eu tyddyn ac ym mis Mehefin 2017 drwy adeiladu Caffi a Siop Fferm fwyaf ogleddol Prydain.
Mae Martin yn ffermio gyda'i deulu ym Montague ar ymyl orllewinol Gwastatiroedd Pevensey yn Nwyrain Sussex. Mae dwy ran o dair o'r tir yn gorsydd pori, sy'n cael eu rheoli er mwyn adfer gwlyptiroedd ar gyfer cornicyllod a phibyddion coesgoch sy'n nythu, a thir pori organig llaith, llawn perlysiau. Mae'n gofalu am braidd o tua 850 o ddefaid Romney a gyrr eidion brid cymysg o wartheg Sussex ac Angus.
Lleolir Fferm Ballyrenan 30 milltir i'r dwyrain o Belfast yng Ngogledd Iwerddon. Mae John yn ffermio mewn partneriaeth â'i fab Jonathan. Mae'r fferm yn un organic ers 11 mlynedd bellach. Buches fagu, gwartheg eidion a grawnfwyd yw'r prif fentrau. Mae'r fferm yn rhan o gynllun amgylcheddol ac yn tyfu planhigion sy'n darparu lloches i adar yn flynyddol. Mae Jon yn aelod o fwrdd y Soil Association ac yn Gadeirydd Organic Gogledd Iwerddon. Mae'n gweithio'n agos hefyd â'r Adran Amaethyddol ac yn rhan o sawl grwp rhanddeiliaid.
Mae Geraint Davies yn ffermio yn Fedw Arian Uchaf ger y Bala gyda'i wraig Rachel a'u dwy ferch ifanc. Mae wedi bod yn ffermio ers 20 mlynedd. Mae'r fferm fynydd yn gartref i ddefaid mynydd Cymreig a gwartheg duon Cymreig. Mae topograffi'r fferm yn amrywio rhwng 600 a 2200 troedfedd ac yno ceir porfeudd parhaol, coedydd derw hynafol, pyllau dŵr, glaswellt asidig a gorgors. Mae'n fath o fferm sy'n gwarchod yr amgylchedd tra'n cynhyrchu bwyd cynaliadwy yn y fargen.
Mae Tony yn denant fferm pumed genhedlaeth ar fferm 680 hectar yng nghanolbarth Cymru. Mae dros 80% o'r fferm wedi ei ddynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Mae'n fferm organic sydd â chytundebau Glastir Uwch a Creu Coetir. Fe geir amrywiaeth eang o gynefinoedd ar y fferm sy'n cael eu rholi gan ddefiad mynydd Cymreig. Mae Tony hefyd yn cynhyrchu biochar a siarcol ar y fferm. Mae'n gweld yr ochr orau o bob sefyllfa, nid yw'n ofni newid ac mae'n cydnabod bod angen addasu.
Mae Gethin Owen a'i deulu yn ffermio 110 hectar yn Nant yr Efail ger Abergele ar arfordir Gogledd Cymru. Mae'n gyn-enillydd rhanbarthol cystadleuaeth Nature of Farming yr RSPB. Mae'n ffermio 35 o wartheg magu a 650 o ddefaid, ac mae hefyd yn tyfu haidd a ceirch, porthiant pys, rwdins a meillion coch. Mae'r fferm yn dilyn egwyddorion traddodiadol ac mae'n ceisio bod mor hunangynhaliol â phosib er mwyn lleihau costau. Ers 2008 bu'r fferm yn ran o gytundeb Tir Gofal ac mae bellach yn ran o gytundeb Glastir Uwch. Mae hyn wedi arwain at welliannau amgylcheddol arwyddocaol yn ogystal â chreu cynefinoedd newydd - plannwyd sawl cilomedr o wrychoedd a darperir cnwd ar gyfer adar hadysol dros y gaeaf. Mae Gethin yn frwd iawn dros greu cartref i fywyd gwyllt ac arddangos y gall natur redeg law yn llaw gydag amaethyddiaeth gynhyrchiol.
Mae Michael Clarke a'i wraig Shirley yn ffermio defaid a gwartheg eidion yn Dumfriesshire, yr Alban.